Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Hydref 2018
Amser:
09.00 -
10.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5066
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
Simon Green, Bridgend Coalition for Disabled People Helen Fincham, Bridgend Coalition for Disabled People Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru Anita Davies, RNIB |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o fanylion am gynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â gorsaf Cas-gwent, a pham na ellir cyflawni'r cynnydd arfaethedig yng ngwasanaethau Masnachfraint Cymru a'r Gororau o aros yng Nghas-gwent tan fis Rhagfyr 2022.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am gael rhagor o wybodaeth hefyd gan y deisebydd am y datganiad a wnaed yn y ddeiseb bod hanes Cymru wedi'i ysgrifennu yn Gymraeg.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
· grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis, a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac
· aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Arweinydd y Tŷ cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i
ysgrifennu at y deisebwyr:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chadw llygad ar y ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu cynhwysfawr a roddwyd i'r mater hwn gan yr ymchwiliad cyhoeddus ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadl lawn ar y mater hwn cyn gwneud penderfyniad.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
· grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac
· aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Mind Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o gwestiynau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys:
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith y gellir parcio am ddim ym mhob ysbyty GIG yng Nghymru ers 1 Hydref 2018.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan fyrddau iechyd lleol a'r deisebydd a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i drefnu i gymryd tystiolaeth lafar gan y grŵp ymgyrchu a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r argymhellion sy'n deillio o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gysgu allan.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith na dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad gan y deisebwyr am 12 mis, a'r tebygolrwydd nad oes llawer o waith craffu ymarferol y gall y Pwyllgor ei wneud i'r mater hwn. Wrth wneud hynny, dymunodd y Pwyllgor lwc i'r deisebwyr gyda'r prosiect hwn.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith nad yw'n ymddangos yn bosibl bellach i symud y ddeiseb hon ymlaen oherwydd y diffyg cysylltiad gan y deisebwyr ac effaith diwedd cyllid Cymunedau'n Gyntaf.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Green, Helen Fincham, Rhian Davies ac Anita Davies.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd i ysgrifennu at:
· Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i roi gwybodaeth am y materion a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun o'r fath. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd nad yw'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi cael fawr o effaith ar wella hygyrchedd adeiladau ar gyfer pobl ag anableddau; a'r
· Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd mai ychydig iawn o effaith o ran gwella hygyrchedd adeiladau y mae'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei chael ar gyfer pobl ag anableddau, ac nad yw gofynion y Ddeddf yn cael eu gorfodi'n briodol.